Y ‘Sgubor Flodau starts this June

Jun 12, 2023

Y Sgubor Flodau, The Flower Barn, starts on S4C this June. Episode 1 airing on June 13 at 9 PM on S4C

< Back to all news

Y ‘Sgubor Flodau yn dod â lliw a llawenydd

“Mae blodau’n llanw’r bylchau ble nad oes geiriau” – dyna farn un o dîm Y ‘Sgubor Flodau, cyfres newydd sbon chwe rhan ar S4C.

Yn y gyfres dwymgalon hon fe fydd tîm cynllunio talentog yn creu campweithiau o flodau i bobl sy’n haeddu ychydig o liw a llawenydd yn eu bywydau.

Y tri fydd yng ngofal y creadigaethau blodeuog yma ydy Wendy Davies o Gaerfyrddin, sy’n treulio bron bob penwythnos yn trefnu blodau ar gyfer priodasau; Donald Morgan o Lanrhystud sy’n gyn-enillydd gwobr aur Sioe Flodau Chelsea; a Gabrielle Davies o Lambed sy’n gwneud addurniadau enfawr ar gyfer llu o westai.

Lloyd Lewis sy’n cadw trefn ar y Sgubor Flodau, yn clywed y straeon – y llon a’r lleddf – y tu ôl i ddymuniadau pobl i anfon blodau, ac yna’n cael y pleser o gyflwyno’r campweithiau i’w cartref newydd.

 

Y Sgubor Flodau says it with flowers

“When words aren’t enough, flowers fill the void” – so says one of the team of florists in a brand new six-part series on S4C, Y Sgubor Flodau (The Flower Barn).

In this heartfelt series, the talented team create floral masterpieces for those who deserve a little colour and joy in their lives.

The three who will be in charge of these floral creations are Wendy Davies from Carmarthen, who spends most weekends creating floral arrangements for weddings; Donald Morgan from Llanrhystud, a former Chelsea Flower Show gold award winner; and Gaby Davies from Lampeter who makes huge displays for a number of hotels.

Host Lloyd Lewis is tasked with keeping the petals from flying in the barn, listens to the sometimes emotional stories behind people’s wishes to send flowers, and also has the pleasure of delivering the floral masterpieces to their recipients.

_

Episode 1 / Rhaglen 1 

Pan d’yw geiriau ddim yn ddigon mae blodau’n dweud y cyfan. Mewn cyfres newydd sbon, Y ‘Sgubor Flodau, bydd pobl o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r ‘sgubor i ofyn i’n tîm cynllunio creadigol i greu blodau syfrdanol ar gyfer pobol haeddiannol fel syrpreis. Yn y bennod hon, bydd fferm ar Ynys Môn yn derbyn rhywbeth i gofio eu sylfaenwyr. Byddwn ni’n dathlu’r genhedlaeth Windrush, ac mi fydd darpar briodferch yn cael ei Pharti Plu hir-ddisgwyliedig ac yn derbyn coron o flodau hardd ar gyfer y dathlu.

When words just aren’t enough flowers always deliver. In this brand new series of Y ‘Sgubor Flodau, people visit The Flower Barn to ask the expert florists to create something remarkable to surprise their deserving friends, family and colleagues. In this episode, a farm on Anglesey receives something special to remember its founders. We celebrate the Windrush generation, and a bride-to-be finally gets her long-awaited hen night and will receive a beautiful flower crown to celebrate.

Similar Articles
Share This