Cymry ar Gynfas – Ail Gyfres
O’r cyfarwyddwr/cynhyrchydd Sioned Geraint…
Mae Cymry ar Gynfas yn dod a chwe eicon Cymraeg a chwe artist at eu gilydd i greu chwe phortread sy’n adlewyrchu personoliaeth yr wynebau cyfarwydd ac agwedd unigryw pob artist.
Ac yn ychwanegol at y portread a ddatgelwyd ar ddiwedd y rhaglen, mae pob pennod yn cynnig portread gonest ac agored o’r eicon a’r artist wrth iddynt siarad am eu profiadau a sut brofiad yw paentio, a chael eu paentio.
Gallwch chi wylio’r gyfres ar S4C Clic neu ar BBCiPlayer